Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Ionawr 2019

Pn(5)004 – Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 drwy ddileu cyfeiriad at ‘Gyfarwyddeb y Sector Cyhoeddus’ oherwydd y bydd y cyfeiriad hwnnw yn ddiffygiol ar ôl y diwrnod ymadael.

Mae’r offeryn yn darparu y bydd y termau sydd wedi’u diffinio ar hyn o bryd drwy gyfeiriad at Gyfarwyddeb y Sector Cyhoeddus yn cael eu diffinio drwy gyfeiriad at Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 o’r diwrnod ymadael ymlaen.

Cafodd y rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd

Pn(5)005 – Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd cofnodi, adnabod a symud da byw.

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r rheoliadau hyn (Saesneg yn unig) yn nodi: “the purpose of the instrument is solely to enable the current legislative and policy framework to remain unchanged by the withdrawal of the United Kingdom from the European Union”.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd

Pn(5)006 – Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

These Regulations correct minor, technical deficiencies within The Radioactive Contaminated Land (Modification of Enactments) (Wales) Regulations 2006 as amended. The purpose of the corrections is to ensure that the legislative framework governing radioactive contaminated land is operable post EU-exit.

These Regulations were laid for the purposes of sifting under the EU (Withdrawal) Act 2018 in accordance with Standing Order 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd

 


Pn(5)007 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r rheoliadau hyn (Saesneg yn unig) yn nodi:

-      The instrument will address deficiencies in domestic legislation arising from the withdrawal of the UK from the EU, and ensures that controls on Animal By-Products and Transmissible Spongiform Encephalopathies continue to operate on EU exit to protect animal and public health.

-      EU rules for the control of TSEs and ABPs are at least equivalent to, and in some cases higher than, the international standards set by the World Organisation for Animal Health (Office International des Epizooties ­ OIE). Whilst the UK will be under no legal obligation to adhere to EU rules for TSE and ABP control following EU Exit, due to the history of the BSE epidemic in Europe (particularly within the UK in the 1980/90s), third countries will expect the UK to at least mirror the key EU controls, even though these exceed OIE safeguard standards.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd